Roedd hon yn gêm hollbwysig i Gaerdydd yn y ras i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr, ac fe fydd y canlyniad ar y noson yn siom i glwb y brifddinas.
Roedd na dri o newidiadau i garfan Neil Harris yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-3 yn erbyn Preston, gyda Nathaniel Mendez-Laing, Robert Glatzel a Marlon Pack yn cael eu dewis.
Roedd y fuddugoliaeth honno wedi codi’r Adar Gleision i’r chweched safle, a hynny o fewn safle’r gemau ail-gyfle.
Ond fe gafwyd hanner cyntaf di-fflach gan y ddau dîm nos Fawrth, gyda’r un gic wedi ei hanelu’n gywrain at y targed yn ystod y 45 munud o chwarae.
Ar yr hanner, rheolwr Charlton Lee Bowyer oedd yr hapusaf o’r ddau reolwr, gan fodloni ar berfformiad ei chwaraewyr.
Gwell ail hanner
Roedd yr ail hanner yn dipyn gwell, gyda asgellwr ar fenthyg Caerdydd, Albert Adomah yn gorfodi golwr Charlton, Dillon Phillips i wneud arbediad gwych.
Fe darodd Junior Hoilett y bêl yn nerthol dros y bar i Gaerdydd, oedd yn magu hyder a phendantrwydd wrth i’r gêm ddatblygu.
Parhau yn y chweched safle mae’r Adar Gleision ar ôl cipio pwynt pwysig, er y gall eu mantais o bedwar pwynt grebachu pan fydd Preston, sydd yn y seithfed safle, yn croesawu Derby ddydd Mercher.
Bydd pwynt i Charlton Athletic yn fwy o wobr na’r pwynt i Gaerdydd, ac fe fydd Neil Harris yn edrych yn ôl ar y gêm fel cyfle oedd wedi ei golli.