Dywed cwmni Hitachi nad oes ganddyn nhw gynlluniau i werthu safle gorsaf niwclear ym Môn i gorfforaeth yn China wedi sylwadau gan Donald Trump.
Ym mhapur y Sunday Times mae dyfyniad gan Arlywydd yr Unol Daleithiau’n rhybuddio yn erbyn gwerthu Wylfa i China.
Cafodd y gwaith ar y prosiect £13bn ei atal y llynedd wedi i Hitachi fethu â sicrhau cytundeb cyllido gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Horizon Strength: “Does gennym ddim sylw i’w wneud ar yr hyn sy’n cael ei ddarogan.
“Mae’n sylw yn parhau ar sicrhau yr amodau angenrheidiol i ailddechrau y prosiect – gwaith a fyddai’n dod â budd economaidd i’r rhanbarth ac a fyddai’n chwarae rhan flaenllaw yn sicrhau ymrwymiadau newid hinsawdd y DU.”
Hitachi sydd berchen ar Horizon a nhw sydd i fod i arwain y gwaith o adeiladu’r safle.
Mae disgwyl i Wylfa gynhyrchu pŵer ar gyfer pum miliwn o dai ond fe gafodd y gwaith ei atal am y tro wrth i gostau gynyddu.
Fis Hydref y llynedd roedd disgwyl i’r Ysgrifennydd Busnes, Andrea Leadsom gymeradwyo cais Pŵer Niwclear Horizon am orchymyn caniatâd datblygu (DCO), ond daeth cadarnhad fod y penderfyniad wedi’i ohirio tan ddiwedd Mawrth 2020.
Mae adroddiad yn y Sunday Periods yn nodi bod corfforaeth pŵer niwclear China (Common Nuclear Power Corporation) yn awyddus i brynu’r safle fel rhan o’r cynlluniau i adeiladu nifer o adweithyddion niwclear.
Ond wrth siarad ag asiantaeth newyddion Reuters dywedodd Hitachi nad “oeddynt yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i werthu’r prosiect i China”.